Howell Jones Cyfreithwyr yn Llanrwst ac Abergele, Gogledd Cymru
Mae Cyfreithwyr Howell Jones yn cynnig gwasanaethau cyfreithiol yng Ngogledd Cymru, gyda swyddfeydd yn Llanrwst ac Abergele.
Sefydlwyd y cwmni ym 1911 ac mae wedi bod yn rhoi cyngor i fusnesau, teuluoedd ac unigolion ar draws Gogledd Cymru ers cenedlaethau.
Daw ein cryfder o’n cysylltiadau traddodiadol â’r gymuned leol a’r elfen bersonol sydd wrth wraidd ein holl waith. Darparwn wasanaeth unigol, cyngor cadarn a’r preifatrwydd llwyr sydd ei angen ar bob un o’n cwsmeriaid mewn ffordd agored a chyfeillgar.
Mae’r cwmni wedi’i leoli mewn ardal lle mae’r iaith Gymraeg yn gryf a gallwn gynnig gwasanaethau cyfreithiol yn Gymraeg a Saesneg i’n cwsmeriaid. Rydyn ni’n gwmni agored a chyfeillgar sy’n cwrdd ag anghenion ein cwsmeriaid yn y rhan fwyaf o'r meysydd cyfreithiol.