Cyfraith Droseddol

Mae Cyfreithwyr Howell Jones yn delio â phob agwedd ar gyfraith droseddol o droseddau moduro i’r troseddau mwyaf difrifol a chymhleth a hefyd gydag achosion rheoleiddio gan gyrff fel awdurdodau lleol a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Mae gennym gontract gyda’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol i wneud gwaith wedi’i ariannu’n gyhoeddus. Cysylltwch gyda ni i gael gwybod a ydych yn gymwys am wasanaeth wedi’i ariannu’n gyhoeddus.

Gallwn drefnu i rywun eich cynrychioli yng ngorsaf yr heddlu a gallwn ddarparu cynrychiolydd profiadol a phroffesiynol yn y Llys Ieuenctid, Llys Ynadon a Llys y Goron.

Defnyddiwn hefyd fargyfreithwyr gyda’r profiad arbenigol perthnasol mewn gwahanol feysydd cyfraith droseddol fel y gallwch fod yn ffyddiog y derbyniwch y cyngor a'r gynrychiolaeth orau beth bynnag yw eich anghenion ac ym mha bynnag gam y bydd eich achos wedi cyrraedd.

Sut i gysylltu â ni

Os cawsoch rybudd ymlaen llaw i fynychu Gorsaf yr Heddlu, neu os ydych am fynd yno’n wirfoddol, ffoniwch ni ar 01745 826282 (Swyddfa Abergele).

Os cawsoch chi, neu aelod o’ch teulu, eich arestio heb rybudd ymlaen llaw, dylech ofyn i’r Heddlu gysylltu gyda ni’n syth – bydd ganddynt fanylion ein swyddfa a’n rhifau cyswllt tu allan i oriau.

Os cawsoch eich cyhuddo’n barod, neu rybudd yn dweud wrthych am fynd i'r llys neu os ydych yn amau y bydd angen i chi fynd, ffoniwch ni ar 01492 596596.

Mae'r Adran Droseddol yn ein swyddfa yn Abergele.

Top