solicitors llanrwst and abergele, conwy north wales - howell jones and company solicitors llanrwst and abergele, conwy north wales - howell jones lawsolicitors in llanrwst (01492 640277) and abergele (01745 826282) in north wales

Rydych chi yma : Hafan > Amdanom Ni

Ynglŷn â Howell Jones a'i Gwmni

Cefndir y Cwmni

Sefydlwyd ein cwmni yn 1911 ac ers hynny mae wedi ehangu yn naturiol a thrwy chyfuno â chwmniau eraill - gan ymgorffori cwmnïau blaenorol Howell Jones a Marshall Hughes a David Thomas, Williams, Owen a'i Gwmni. Mae ein gwreiddiau mewn rhoi cyngor i fusnesau, teuluoedd ac unigolion ar draws gogledd Cymru ers sawl cenhedlaeth.

Mae ein cryfder yn deillio o gysylltiadau traddodiadol â'r ardal leol tra bo agwedd fodern ac arbenigedd ein hymarferwyr wedi creu cwmni sydd â'r dyfnder gwybodaeth a'r gallu i ddelio â gwaith cenedlaethol ac arbenigol ynghyd â'r hyblygrwydd i ddarparu gwasanaeth personol o safon.

Mae ein cwmni wedi ennill enw da am ansawdd wedi'w selio ar y safonau proffesiynol uchaf, egwyddorion cadarn a systemau datblygedig. Mae'r cyswllt personol yn greiddiol i'n gweithgareddau ac mae pawb yn ymrwymedig i ofal cwsmeriaid cynhwysfawr a darparu gwasanaeth o ansawdd am bris cystadleuol.

Mae gan y cwmni bump o bartneriaid sy'n cydweithio â staff medrus a chyfeillgar. Mae eu hyfforddiant a’u datblygiad yn bwysig i ni gan eu bod yn gonglfaen i'r gwasanaeth ymatebol ac ansawdd uchel a ddarperir i'n cleientiaid.

Ein nod yw darparu gwasanaeth unigol, cyngor cadarn a hollol gyfrinachol sy’n angenrheidiol i bob un o’n cleientiaid mewn modd agored a chyfeillgar.

Rydym wedi ein lleoli mewn ardal Gymraeg eu hiaith ac rydym yn gallu cynnig gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg i'n cleientiaid. Cwmni agored a chyfeillgar yn gwasanaethu anghenion ein cleientiaid yn y rhan fwyaf o feysydd cyfreithiol.

Rhif TAW y Cwmni: 372 3800 62

Personél

Nodir y personél allweddol yn Howell Jones a'i Gwmni isod.

Partneriaid

  • David W.P. Hughes LLB (Anrh) Cymru
  • Hywel Davies LLB (Anrh) Cymru
  • Nia Hughes Parry BA (Anrh)
  • Nia W. Roberts LLB (Anrh) Cymru
  • Paul McAlinden LLB (Anrh) Cymru

Ymgynghorydd

  • Janet P. Evans LLB (Anrh)

Cyfreithwyr Cynorthwyol

  • C. Gail Galloway LLB (Anrh)
  • Eleri Jones F.I.L.Ex/TEP
  • Rhonwen Morris BA (Anrh)
  • Emyr Gwyn BSc, LLB. (Anrh) Cymru

Paragyfreithwyr

  • Carol Mulkerrin
  • Kath Alderton
  • Maggie Myers Bowley
  • Ruth Jones

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01492 640277 (Llanrwst) neu 01745 826282/825845 (Abergele)
E-bost: Defnyddiwch ein ffurflen cysylltu ar-lein os gwelwch yn dda.

I gael manylion cysylltu llawn ewch i'n tudalen cysylltu â ni.