Achrediadau i roi Tawelwch Meddwl

Mae gennym achrediad gyda’r sefydliadau canlynol.

Cymdeithas y Gyfraith Amaethyddol

Yr ALA yw’r sefydliad rhyng-broffesiynol mwyaf yn y Deyrnas Unedig sy’n delio â chyfraith a busnes cefn gwlad gan hyrwyddo gwybodaeth, dealltwriaeth a datblygiad ymhlith rhai sy’n rhoi cyngor i fusnesau gwledig.

Panel Cyfraith Deuluol Cymdeithas y Gyfraith

Mae aelodau o’r Panel Cyfraith Deuluol wedi dangos bod ganddynt eisoes, a'u bod yn bwriadu cynnal lefel uchel o wybodaeth, sgiliau, profiad ac ymarfer ym maes cyfraith deuluol.

Resolution

Mae aelodau o’r sefydliad Resolution yn ymrwymedig i ddatrys anghydfod teuluol yn adeiladol a thrwy ddilyn y Cod Ymarfer sy'n hyrwyddo dull diwrthdaro o ymdrin â phroblemau teuluol, gyda ffocws ar sicrhau’r hyn sydd orau ar les plant.

Resolution – Achrediad Arbenigol

Mae arbenigwyr datrys anghydfod yn arbenigo mewn ystod o feysydd cyfreithiol sy’n deillio o chwalfa deuluol.

Ymgyfreitha Troseddol Cymdeithas y Gyfraith

Bydd aelodau wedi dangos drwy arholiad allanol bod ganddynt eisoes, a'u bod yn bwriadu cynnal lefel uchel o wybodaeth, sgiliau, profiad ac ymarfer ym maes ymgyfreitha troseddol.

Ansawdd Trawsgludo Cymdeithas y Gyfraith

Mae Cynllun Ansawdd Trawsgludo (CQS) Cymdeithas y Gyfraith yn rhoi safon ansawdd gydnabyddedig i gyfreithwyr dargludo preswyl. Mae aelodaeth yn dangos hygrededd y cwmni i’w rhanddeiliaid megis rheoleiddwyr, benthycwyr, yswirwyr a phrynwyr a gwerthwyr tai preswyl.

Contract gyda’r Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol

Wedi eich awdurdodi i gyflawni gwaith wedi’i ariannu’n gyhoeddus (gwaith troseddu a theulu’n bennaf) ar yr amod eich bod yn gymwys.

STEP

Corff proffesiynol byd-eang yw’r Gymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaeth ac Ystad (STEP) i rai sy’n rhoi cyngor i deuluoedd traws-genhedlaeth. dMae aelodau’n cynnal safonau proffesiynol uchel drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus a glynu wrth Gôd Ymddygiad Proffesiynol STEP.

APIL

Mae’r Gymdeithas Cyfreithwyr Anafiadau Personol (APIL) wedi bod yn ymladd dros hawliau pobl a ddioddefodd anafiadau ers dros 25 o flynyddoedd. Mae cyfreithwyr APIL yn ymroddedig i newid y gyfraith, gwarchod a gwella mynediad pobl at gyfiawnder a gwella’r gwasanaethau a roddir i rai sy’n dioddef anafiadau personol.

CILEX

Mae’r Sefydliad Siartredig Gweithredwyr Cyfreithiol yn gymdeithas broffesiynol sy’n cynrychioli Gweithredwyr Cyfreithiol Siartredig sydd eisoes yn siartredig neu dan hyfforddiant ac yn cael ei chydnabod yng Nghymru a Lloegr fel un o dri chorff rheoleiddio craidd cymeradwy’r proffesiwn cyfreithiol ynghyd â chyfreithwyr a bargyfreithwyr.

Cymraeg

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Top