Dach chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd > Ewyllys Byw/Blaengyfarwyddeb
Ewyllys Byw/Blaengyfarwyddeb
Mae'r termau Ewyllys Byw a Blaengyfarwyddeb yn ddau derm gwahanol sy'n disgrifio'r un peth.
Mae Ewyllysiau Byw wedi datblygu fel adlewyrchiad o'r newidiadau sy'n digwydd yn ein hoes. Mae'r datblygiadau cyflym mewn gwyddoniaeth feddygol yn golygu ein bod nid yn unig yn byw'n hirach, ond bod gennym hefyd fwy o ddewis o safbwynt y math o driniaeth feddygol a roddir i ni, ac am ba mor hir y byddwn yn ei derbyn..
Mae'r term Ewyllys Byw yn gallu bod yn gamarweiniol a pheri dryswch gan nad yw'n Ewyllys o gwbl. Daw ewyllysiau i rym ar ôl eich marwolaeth yn unig ac maent yn ymdrin â'ch asedau ariannol gan benodi Ysgutorion i ymdrin â'r un peth. Mae Ewyllysiau Byw yn rhoi dewis i chi ynglŷn â'ch materion diwedd oes a chwestiynau ansawdd bywyd pe baech yn y dyfodol yn datblygu salwch dirywiol neu’n dioddef o ryw ffurf ar ddementia.
Gydag Ewyllys Byw fe allwch wneud y canlynol
- Rheoli'r driniaeth feddygol a roddir i chi
- Cynnal ansawdd bywyd a bennwyd gennych ymlaen llaw
- Galluogi eich hun i farw’n naturiol, hyd yn oed os cwtogir ar hyd eich oes trwy wneud hynny.
Ar hyn o bryd nid oes yno ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag Ewyllysiau Byw, ond rhagwelir y bydd hyn yn newid cyn hir. Er hynny, fe all Ewyllysiau Byw a luniwyd yn briodol fod â grym cyfreithiol cyflawn gan sicrhau bod eich ymgynghorwyr meddygol yn cydymffurfio â'ch dymuniadau.
Fe all ein hymarferwyr gynnig cyngor gwerthfawr i chi yn y maes anodd a phersonol iawn yma o’r gyfraith, maes sydd yn dal i ddatblygu.
Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol trwy gwblhau ffurflen ymholiadau ar-lein.
Rhestr Llawn - Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd
Gwasanaethau a Ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni
Trosolwg o wasanaethau cysylltiedig ag ewyllys ac etifeddiant a ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni.
Pwy Ddylai Wneud Ewyllys?
Gwybodaeth i'ch helpu chi i benderfynu a ddylech lunio ewyllys neu beidio.
Treth Etifeddiant
Gyda chyngor cyfreithiol arbenigol gallwch drefnu eich materion ariannol i leihau eich rhwymedigaeth treth.
Pwerau Atwrnai
Ynglŷn â rhoi pŵer i unigolyn arall weithredu ar eich rhan mewn materion eiddo ac ariannol.
Ewyllys Byw/Blaengyfarwyddeb
Rhoi dewis i chi ynglŷn â’ch materion diwedd oes a chwestiynau ansawdd bywyd.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01492 640277 (Llanrwst) neu 01745 826282/825845 (Abergele)
E-bost: Defnyddiwch ein ffurflen cysylltu ar-lein os gwelwch yn dda.
I gael manylion cysylltu llawn ewch i'n tudalen cysylltu â ni.
Hawlfraint y cynnwys Cyfreithwyr Howell Jones a'i Gwmni, Llanrwst ac Abergele, Gogledd Cymru.
