solicitors llanrwst and abergele, conwy north wales - howell jones and company solicitors llanrwst and abergele, conwy north wales - howell jones lawsolicitors in llanrwst (01492 640277) and abergele (01745 826282) in north wales

Dach chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd > Gwasanaethau a Ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni

Gwasanaethau a Ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni

Erbyn hyn nid rhywbeth i’r cyfoethog yn unig yw llunio ewyllys neu ddarpariaeth ar gyfer eich teulu. Gyda'r cynnydd mewn prisiau tai, mae nifer cynyddol o bobl yn cael eu dal gan gyfreithiau treth etifeddiant.

Mae llawer ohonom yn penderfynu peidio gwneud Ewyllys oherwydd ein bod yn credu nad oes gennym unrhyw beth gwerthfawr i'w adael i’n hanwyliaid, ond yn aml iawn ar ôl ystyried gwerth eiddo ac yswiriant bywyd mae'r symiau hyn yn gallu bod yn rhai digon sylweddol i ddenu sylw Cyllid y Wlad.

Er ei bod yn naturiol i bobl osgoi dymuno llunio Ewyllys, mae'n hanfodol i ni gael trefn ar ein materion er mwyn sicrhau bod ein hasedau’n cael eu trosglwyddo i’r rhai sydd fwyaf annwyl inni ac i leihau unrhyw straen ychwanegol arnynt ar adeg sydd eisoes yn boenus a gofidus iddynt.

Ac nid oes rhaid i lunio Ewyllys fod yn gostus neu lyncu gormod o amser. Gellir llunio Ewyllys am gyn lleied â £100 a bydd yn rhoi tawelwch meddwl gwirioneddol i chi a'ch teulu. Ar ôl ymgynghoriad cychwynnol er mwyn gwybod mwy am eich amgylchiadau arbennig chi, bydd ein hymarferwyr yn gallu cynnig cyngor i chi ynglŷn â'r math o ddogfen sydd ei hangen arnoch a'r ffordd orau o leihau eich rhwymedigaeth i dalu treth etifeddiant.

Mae ein cyfreithwyr yn aelodau o Adran Profiant Cymdeithas y Gyfraith a Chymdeithas Ymarferwyr Ymddiriedolaethau ac Ystadau (STEP).

Rydym yn cynnig gwasanaeth gofalgar, cydymdeimladwy ac effeithlon a all gynnwys ymweliadau cartref ac ysbyty, os oes angen.

Mae'r rhan helaeth o'r gwaith yn y maes hwn yn deillio o gyfeiriadau a geirda gan eraill.

Mae'r amrediad o wasanaethau cyfreithiol a gynigir yn cynnwys:

  1. Paratoi ac adolygu Ewyllys.
  2. Cynllunio ystâd trwy ddefnyddio Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau a Rhoddion Gydol Oes a Gweithredoedd Amrywio.
  3. Profiant a gweinyddu ystadau.
  4. Cynllunio treth yn cynnwys lliniaru a Threth Etifeddiant, Treth Enillion Cyfalaf a threthi eraill, a chyngor ar domisil a phreswylfan.
  5. Creu, amrywio a dirwyn i ben pob math o ymddiriedolaethau, yn cynnwys ymddiriedolaethau dibreswyl a darparu gwasanaethau ymddiriedolwyr.
  6. Pwerau Atwrnai.
  7. Llys Gwarchod.
  8. Cyngor ar ariannu gofal preswyl hir dymor a diogelu asedau.

Am fwy o wybodaeth am y meysydd gwahanol cliciwch ar un o’r cysylltau isod.

Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol heb unrhyw ymrwymiad trwy gwblhau ffurflen ymholiadau ar-lein. Gorau po fwyaf o wybodaeth a roddir gan y bydd hynny'n ein cynorthwyo i asesu eich anghenion.

Rhestr Llawn - Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd

Gwasanaethau a Ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni

Trosolwg o wasanaethau cysylltiedig ag ewyllys ac etifeddiant a ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni.

 

Pwy Ddylai Wneud Ewyllys?

Gwybodaeth i'ch helpu chi i benderfynu a ddylech lunio ewyllys neu beidio.

 

Gwneud Ewyllys

Gwybodaeth ar lunio ewyllys.

 

Symud i Gartref Nyrsio

Gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â symud i gartref nyrsio.

 

Pan fo Rhywun yn Marw

Beth i'w wneud pan fo rhywun yn marw.

 

Treth Etifeddiant

Gyda chyngor cyfreithiol arbenigol gallwch drefnu eich materion ariannol i leihau eich rhwymedigaeth treth.

 

Pwerau Atwrnai

Ynglŷn â rhoi pŵer i unigolyn arall weithredu ar eich rhan mewn materion eiddo ac ariannol.

 

Ewyllys Byw/Blaengyfarwyddeb

Rhoi dewis i chi ynglŷn â’ch materion diwedd oes a chwestiynau ansawdd bywyd.

 

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01492 640277 (Llanrwst) neu 01745 826282/825845 (Abergele)
E-bost: Defnyddiwch ein ffurflen cysylltu ar-lein os gwelwch yn dda.

I gael manylion cysylltu llawn ewch i'n tudalen cysylltu â ni.

brig y dudalen brig y dudalen argraffu'r dudalen hon argraffu'r dudalen hon