solicitors llanrwst and abergele, conwy north wales - howell jones and company solicitors llanrwst and abergele, conwy north wales - howell jones lawsolicitors in llanrwst (01492 640277) and abergele (01745 826282) in north wales

Dach chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd > Gwneud Ewyllys

Gwneud Ewyllys

Dogfen gyfreithiol yw ewyllys sy'n sicrhau ar ôl i chi farw, bod yr hyn yr ydych yn ei adael ar ôl (wedi talu treth a dyledion) yn cael ei ddosbarthu yn unol â’ch dymuniadau. Er eich bod yn teimlo efallai nad oes gennych lawer i'w adael, bydd ewyllys yn sicrhau bod eich eiddo personol yn mynd i'r bobl o'ch dewis chi. Fe all ewyllys hefyd leihau rhwymedigaeth treth eich ystâd.

Fe all paratoi ewyllys hefyd sicrhau eich bod yn ymdrin ag amgylchiadau arbennig, megis plentyn anabl, llysblant, partneriaid o’r un rhyw neu bobl sy'n cyd-fyw, er enghraifft. Mae llunio ewyllys yn golygu mai chi sy'n rheoli'r sefyllfa a gallwch drefnu eich materion yn ôl eich dymuniad chi.

Os nad oes gennych ewyllys ar adeg eich marwolaeth yna bydd y rheolau di-ewyllys yn gymwys. Rheolau cyfreithiol penodol yw'r rhain sy'n ymwneud â dosbarthu eich ystâd. Fe all y rhain olygu bod eich asedau yn cael eu trosglwyddo i unigolion na fyddech efallai am elwa o'ch ystâd.

Fe all unrhyw un dros 18 oed wneud Ewyllys. Os na wnewch chi lunio Ewyllys, fe allai'r arian a fwriadwyd ar gyfer eich anwyliaid ddiweddu yng nghoffrau'r Llywodraeth.

Fe all gwneud Ewyllys ymddangos yn dasg enfawr ond mewn gwirionedd mae'n broses hwylus a chyflym ac fe allwch lunio Ewyllys am gyn lleied â £100.

Mae llunio Ewyllys yn rhoi tawelwch meddwl gwirioneddol i chi gan sicrhau eich bod yn darparu ar gyfer eich anwyliaid a sicrhau na fyddant yn gorfod wynebu mwy o straen ar adeg anodd iawn iddynt.

Diffyg Ewyllys

Pan fo rhywun yn marw heb adael Ewyllys (diewyllys), caiff ei eiddo (yr ystâd) ei rannu yn unol â rheolau diffyg ewyllys. Mae’r rheolau hyn yn gosod allan pwy sydd â hawl i etifeddu o'ch ystâd os nad ydych yn gadael ewyllys ddilys.

Y drefn o ran blaenoriaeth yw'r cymar priod neu’r partner sifil, yna'r plant yna'r rhieni, brodyr, chwiorydd ac yn y blaen. Ni fydd eich cymar/partner o reidrwydd yn etifeddu’r cyfan o'ch ystâd gan fod hynny'n dibynnu ar faint sydd yn eich ystâd a pa ran o'ch perthnasau trwy waed sy'n eich goroesi.

Fe all cymhlethdodau godi. Os yw unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol yn berthnasol i chi, efallai na fydd y rheolau diffyg ewyllys yn darparu ar gyfer eich sefyllfa yn y ffordd y byddech yn ddymuno:

  • Rydych yn byw gyda'ch gilydd ond heb briodi’n gyfreithiol neu heb fod mewn partneriaeth sifil ond yn dymuno i’ch partner etifeddu rhan neu'r cyfan o'ch ystâd.
  • Rydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil gyda phlant ac yn dymuno i'ch cymar/partner sifil etifeddu'r cyfan o'ch ystâd.
  • Nid oes gennych unrhyw berthnasau sydd wedi eich goroesi ac rydych am adael eich ystâd i'ch ffrindiau neu elusen, (Fe all y Goron gymryd eich ystâd pe baech yn marw heb adael unrhyw ewyllys ac heb adael unrhyw berthnasau wedi eich goroesi) · Rydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil ond nid ydych yn dymuno i'ch cymar/partner sifil etifeddu unrhyw beth
  • Rydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil ond heb blant
  • Rydych wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil ac mae gennych blant o berthynas flaenorol ac yn dymuno gwneud yn siŵr bod eich plant yn derbyn rhywbeth o'ch ystâd
  • Mae gennych berthnasau dibynnol, ee plant dan 18, perthnasau hŷn neu berthnasau ag anabledd sydd ag anghenion arbennig ac am wneud yn siŵr eu bod yn cael gofal a bod darpariaeth wedi’i wneud ar eu cyfer. Os ydych yn llunio Ewyllys gallwch benodi gwarcheidwaid i ofalu am eich plant a sefydlu ymddiriedolaethau yn eich ewyllys i ddarparu ar gyfer dibynyddion.
  • Mae eich ystâd yn fawr ac yn agored i dalu Treth Etifeddol ac rydych yn dymuno gwneud trefniant ar gyfer cynllunio treth

Nid yw pobl yn hoffi meddwl am farwolaeth a’i effaith ar y rhai sydd ar ôl, ond mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i bawb ei wynebu yn y pen draw. Heb ewyllys ni fydd gennych unrhyw reolaeth dros eich materion, ac yn gorfod dibynnu ar y rheolau a luniwyd gan y Senedd. Trwy lunio Ewyllys gallwch sicrhau bod eich asedau yn cael eu trosglwyddo i'r rhai yr ydych yn dymuno iddynt eu cael.

Etifeddiaeth Statudol mewn Diffyg Ewyllys

Ni ddylai parau priod a phartneriaid sifil ei chymryd yn ganiataol y bydd hawl awtomatig ganddynt i bopeth yn dilyn marwolaeth eu gŵr/gwraig neu bartner sifil. Mae yno gyfyngiadau ar faint y caiff gŵr/gwraig neu bartner sifil ei etifeddu os yw’ r gŵr/gwraig neu bartner sifil yn marw gan adael plant a pherthnasau eraill. Er gwaethaf y cynnydd a fu yn y cyfyngiadau hyn yn Chwefror 2009, mae'n bwysig i unigolion wneud trefniadau ar gyfer eu hanwyliaid yn dilyn eu marwolaeth trwy lunio Ewyllys

Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol trwy gwblhau ffurflen ymholiadau ar-lein.

Rhestr Llawn - Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd

Gwasanaethau a Ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni

Trosolwg o wasanaethau cysylltiedig ag ewyllys ac etifeddiant a ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni.

 

Pwy Ddylai Wneud Ewyllys?

Gwybodaeth i'ch helpu chi i benderfynu a ddylech lunio ewyllys neu beidio.

 

Gwneud Ewyllys

Gwybodaeth ar lunio ewyllys.

 

Symud i Gartref Nyrsio

Gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â symud i gartref nyrsio.

 

Pan fo Rhywun yn Marw

Beth i'w wneud pan fo rhywun yn marw.

 

Treth Etifeddiant

Gyda chyngor cyfreithiol arbenigol gallwch drefnu eich materion ariannol i leihau eich rhwymedigaeth treth.

 

Pwerau Atwrnai

Ynglŷn â rhoi pŵer i unigolyn arall weithredu ar eich rhan mewn materion eiddo ac ariannol.

 

Ewyllys Byw/Blaengyfarwyddeb

Rhoi dewis i chi ynglŷn â’ch materion diwedd oes a chwestiynau ansawdd bywyd.

 

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01492 640277 (Llanrwst) neu 01745 826282/825845 (Abergele)
E-bost: Defnyddiwch ein ffurflen cysylltu ar-lein os gwelwch yn dda.

I gael manylion cysylltu llawn ewch i'n tudalen cysylltu â ni.

brig y dudalen brig y dudalen argraffu'r dudalen hon argraffu'r dudalen hon