solicitors llanrwst and abergele, conwy north wales - howell jones and company solicitors llanrwst and abergele, conwy north wales - howell jones lawsolicitors in llanrwst (01492 640277) and abergele (01745 826282) in north wales

Dach chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd > Pan fo Rhywun yn Marw

Pan fo Rhywun yn Marw

Mae marwolaeth rhywun sy'n annwyl yn brofiad trawmatig. Mae'r angen i ddelio â chymaint o bobl a sefydliadau ar adeg pan fydd rhywun yn teimlo mwyaf bregus.

Mae'r canlynol yn rhestr ddefnyddiol a all helpu i leihau'r pryder o orfod gwneud cymaint o dasgau pwysig ar adeg mor anodd:

Ar gyfer trefniadau’r angladd dylech chwilio i weld a oes yno ddymuniadau penodol ar gyfer angladd, efallai y bydd y rhain wedi eu cynnwys mewn cynllun angladd rhagdaledig neu Ewyllys y sawl sydd wedi marw.

Mae'n rhaid cofrestru’r farwolaeth. Mae yno rai dosbarthiadau o berthnasau sy'n gallu cofrestru’r farwolaeth. Dylech hefyd wirio i weld a yw'r Swyddfa Gofrestru yn gweithredu system apwyntiadau ar gyfer cofrestru marwolaeth.

Os oes yna ymholiad ynghylch amgylchiadau'r farwolaeth, yna bydd y farwolaeth yn cael ei chyfeirio at y Crwner. Fe all Swyddfa'r Crwner eich helpu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau.

Mae angen rhoi sylw buan i les anifeiliaid anwes ac anifeiliaid y teulu. Os nad oes yno aelodau teulu neu gymdogion a all helpu i ofalu amdanynt, ceisiwch gysylltu â changen leol yr RSPCA, efallai y gallant gynnig cymorth.

Os yw'r ymadawedig neu unrhyw aelod o’i d/theulu agos yn derbyn Budd-daliadau Gwladol yna dylech gysylltu â'r swyddfa budd-daliadau leol cyn gynted â phosib er mwyn adolygu'r sefyllfa o ran budd-daliadau.

Dyma rai yn unig o'r materion y bydd angen delio â hwynt yn fuan ar ôl i rywun farw. Mae'n debyg y bydd yno amryw o faterion eraill. Os oes gennych unrhyw ymholiadau yna fe all ein tîm arbenigol o ymgynghorwyr roi cyngor a chymorth ystyriol i chi ar adeg anodd i chi a'ch teulu.

Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol trwy gwblhau ffurflen ymholiadau ar-lein.

Rhestr Llawn - Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd

Gwasanaethau a Ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni

Trosolwg o wasanaethau cysylltiedig ag ewyllys ac etifeddiant a ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni.

 

Pwy Ddylai Wneud Ewyllys?

Gwybodaeth i'ch helpu chi i benderfynu a ddylech lunio ewyllys neu beidio.

 

Gwneud Ewyllys

Gwybodaeth ar lunio ewyllys.

 

Symud i Gartref Nyrsio

Gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â symud i gartref nyrsio.

 

Pan fo Rhywun yn Marw

Beth i'w wneud pan fo rhywun yn marw.

 

Treth Etifeddiant

Gyda chyngor cyfreithiol arbenigol gallwch drefnu eich materion ariannol i leihau eich rhwymedigaeth treth.

 

Pwerau Atwrnai

Ynglŷn â rhoi pŵer i unigolyn arall weithredu ar eich rhan mewn materion eiddo ac ariannol.

 

Ewyllys Byw/Blaengyfarwyddeb

Rhoi dewis i chi ynglŷn â’ch materion diwedd oes a chwestiynau ansawdd bywyd.

 

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01492 640277 (Llanrwst) neu 01745 826282/825845 (Abergele)
E-bost: Defnyddiwch ein ffurflen cysylltu ar-lein os gwelwch yn dda.

I gael manylion cysylltu llawn ewch i'n tudalen cysylltu â ni.

brig y dudalen brig y dudalen argraffu'r dudalen hon argraffu'r dudalen hon