solicitors llanrwst and abergele, conwy north wales - howell jones and company solicitors llanrwst and abergele, conwy north wales - howell jones lawsolicitors in llanrwst (01492 640277) and abergele (01745 826282) in north wales

Dach chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Morgeisi, Gosod a Thrawsgludo Preswyl > Prynu neu Werthu eich Cartref

Prynu neu Werthu eich Cartref

Mae prynu neu werthu tŷ yn un o benderfyniadau mwyaf ein bywydau. Mae pawb yn Howell Jones a’i Gwmni, yn gwerthfawrogi a deall hyn. Felly mae'n bwysig adnabod y cwmni sy’n gweithredu ar eich rhan. Credwn fod y gwasanaeth a gynigiwn yn Howell Jones heb ei ail.

Rydym yn cynnig trawsgludiad personol, tryloyw a gofalus heb unrhyw ddarparu gan gyflenwyr allanol.

Boed yn prynu eich cartref cyntaf neu'n symud i fyngalo ymddeol byddwch yn awyddus i sicrhau bod y broses o symud yn mynd yn llyfn heb unrhyw oedi.

Fe all rhoi cyfarwyddyd i ymarferydd profiadol arbed amser trwy sicrhau bod y broses symud yn cael ei thrin yn briodol.

Mae ein trawsgludwyr preswyl yn cynnwys dau bartner, dau gyfreithiwr a thri paragyfreithiwr. Rhyngddynt mae ganddynt flynyddoedd lawer o brofiad o helpu pobl â'r gwaith cyfreithiol perthnasol wrth brynu neu werthu cartref, cynnig gwasanaeth cyfeillgar ac effeithlon gan sicrhau eich bod yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf yn gyson ynglŷn â sut mae'r broses symud yn mynd.

Mae ein gwaith yn ymdrin â phob agwedd o drawsgludiad preswyl yn cynnwys gwerthu, prynu a morgeisi.

Bydd trawsgludwr personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer a bydd mynediad gennych atynt trwy gydol y trafodion.

Cliciwch yma i gael amcangyfrif gennym ar gyfer Pecynnau Gwybodaeth am Eiddo, neu ewch i'n tudalen HIPs i gael mwy o wybodaeth am Becynnau Gwybodaeth am Eiddo.

Gallwch gael amcangyfrif o drawsgludiad trwy lenwi a chyflwyno ein Ffurflen Amcangyfrif Trawsgludiad.

Ein harweiniad i'ch helpu chi i symud:

Mae'r arweiniad yma yn egluro beth y gallwch ei ddisgwyl pan fyddwch yn prynu neu werthu eiddo.

Mae'r broses yn cael ei hegluro gam wrth gam, ac yn eich helpu i ddeall y broses gyfan. Cliciwch ar y cysylltau i gael cipolwg. ... Gweld yr arweiniad

Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol trwy gwblhau ein ffurflen ymholiadau ar-lein.

Aelodau o Adran Eiddo Cymdeithas y Gyfraith.

Rhestr Llawn - Morgeisi, Gosod a Thrawsgludo Preswyl

Prynu neu Werthu eich Cartref

Mae Howell Jones a'i Gwmni yn cynnig gwasanaeth Prynu a Gwethu tai fel bo angen.

 

Mae Pecynnau Gwybodaeth am Eiddo (HIPs) wedi cyrraedd

Mae cryn sôn wedi bod mewn blynyddoedd diweddar am Becynnau Gwybodaeth am Eiddo (HIPs, a elwid yn Becyn Gwerthwyr yn y gorffennol).

 

Manylion Cyswllt

Ffôn: 01492 640277 (Llanrwst) neu 01745 826282/825845 (Abergele)
E-bost: Defnyddiwch ein ffurflen cysylltu ar-lein os gwelwch yn dda.

I gael manylion cysylltu llawn ewch i'n tudalen cysylltu â ni.

brig y dudalen brig y dudalen argraffu'r dudalen hon argraffu'r dudalen hon