Dach chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd > Pwerau Atwrnai
Pwerau Atwrnai
Fe ddisodlwyd Pwerau Atwreiaeth Barhaus (EPA) ar 1 Hydref 2007 gan Bwerau Atwrneiaeth Barhaol (LPA’s) o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 2005.
Beth yw Pŵer Atwrneiaeth Barhaol?
Cydnabyddir manteision llunio Ewyllys. Trwy wneud hynny rydych yn darparu ar gyfer dirwyn eich buddiannau i ben ar ôl eich marwolaeth. Mae gan hyn fanteision nid yn unig i'r rhai fydd yn gweinyddu eich ystâd, ond bydd hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i chi, o wybod eich bod wedi dewis unigolion gorau i’r rôl fel Ysgutwyr a rhoi'r cyfarwyddiadau angenrheidiol iddynt.
Llai amlwg yw'r cyfleoedd sydd ar gael i ddarparu ymlaen llaw ar gyfer y posibilrwydd y byddwch yn y dyfodol yn analluog i drefnu eich buddiannau ariannol a lles personol eich hun yn ystod eich oes. Mae hyn yn cynyddu mewn pwysigrwydd wrth i'r perygl o analluogrwydd meddyliol dyfu yn sgil byw’n hirach, salwch neu ddamwain. Nid yw pŵer atwrnai cyffredin yn ddigon o ddarpariaeth oherwydd mae’n cael ei ddiddymu'n awtomatig gan analluogrwydd meddyliol - ar yr union adeg y mae ei angen fwyaf. Mae gan y Swyddfa Gwarcheidiaeth Gyhoeddus y pŵer i benodi pobl i reoli eich buddiannau, ond fe all y broses fod yn gostus a hir. Yn bwysicach, byddwch wedi colli'r hawl i ddewis pwy sydd a’r cyfrifoldeb dros ofalu am eich buddiannau ar adeg pan fo'n hanfodol eu bod yn cael eu trin mewn modd sensitif ac effeithlon.
Ateb gwell fyddai, tra’n alluog yn feddyliol, i chi benodi rhywun i ddiogelu eich buddiannau ac i weithredu ar eich rhan pe bai angen. Gallwch wneud hyn trwy Bŵer Atwrneiaeth Barhaol. Drwy Bŵer Atwrneiaeth Barhaol gall Atwrnai gael ei benodi i edrych ar ôl nid yn unig eich buddiannau ariannol ond hefyd i wneud penderfyniadau ar eich rhan ynglŷn â’ch iechyd a’ch lles personol. Adweinir y math newydd o ddogfen fel Pŵer Atwrneiaeth Barhaol.
Pŵer Atwrneiaeth Barhaol Materion Eiddo ac Ariannol
Mae rhain wedi’w llunio ichwi benodi Atwrnai i wneud nifer o benderfyniadau gan gynnwys prynu a gwerthu eich tŷ ac asedau eraill, ymdrin â’ch materion treth, gweithredu eich cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu a cheisio budd-daliadau ar eich rhan.
Pŵer Atwrneiaeth Barhaol Materion Lles Personol
Gall Atwrniaid a benodwyd drwy’r ddogfen hon wneud penderfyniadau ynglŷn â’ch llety a’ch gofal, caniatáu neu wrthod triniaeth feddygol ar eich rhan ac ynglŷn â materion dydd i ddydd fel eich gwisgo a’ch diet.
Cofrestru
Mae’n ofynnol i’r ddau fath o Bŵer Atwrneiaeth Barhaol gael eu cofrestru gyda’r Swyddfa Gwarcheidiaeth Gyhoeddus cyn y cant eu defnyddio gan eich Atwrneiod.
Eich Atwrnai
Fel gyda phob Pŵer Atwrnai rhaid cymryd gofal wrth benodi Atwrnai gan fod angen iddynt fod yn ddibynadwy ac yn alluog i wneud y penderfyniadau angenrheidiol. Gellir penodi i weithredu ar y cyd neu ar y cyd ac yn unigol, neu ar y cyd ynglŷn â rhai materion ac yn unigol ynglŷn â materion eraill.
Beth sy’n digwydd lle nad oed Pŵer Atwrneiaeth Barhaus na Phŵer Atwrneiaeth Barhaol?
Os bydd unigolyn yn analluog yn feddyliol bydd angen i berthynas, ffrind neu Gyfreithiwr gael Gorchymyn Dirprwyo oddi wrth y Swyddfa Gwarcheidiaeth Gyhoeddus. Wedi’r penodiad bydd yn ofynnol i’r Dirprwy gyd-weithio a’r Swyddfa Gwarcheidiaeth Gyhoeddus ynglŷn â rheoli eich buddiannau. Yn ymarferol gall Dirprwyaeth drwy’r Swyddfa Gwarcheidiaeth Gyhoeddus fod yn broses hir, biwrocrataidd a chostus iawn.
Rôl eich Cyfreithiwr
Bydd gan eich Cyfreithiwr ran yn y broses cynnar o’ch cynghori ynglŷn â’r Pŵer Atwrneiaeth Barhaol ac yn y broses cofrestru. Fe all fod yn addas mewn rhai achosion i’ch Cyfreithiwr gael ei benodi fel Atwrnai yn aml gydag aelod o’r teulu neu ffrind da.
Gyda phwy ddylech chwi gysylltu?
Am fwy o wybodaeth am Bwerau Atwrneiaeth Barhaol cysylltwch â ni ar bob cyfri, heb unrhyw ymrwymiad, trwy lenwi a chyflwyno ffurflen ymholiadau ar-lein.
Rhestr Llawn - Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd
Gwasanaethau a Ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni
Trosolwg o wasanaethau cysylltiedig ag ewyllys ac etifeddiant a ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni.
Pwy Ddylai Wneud Ewyllys?
Gwybodaeth i'ch helpu chi i benderfynu a ddylech lunio ewyllys neu beidio.
Treth Etifeddiant
Gyda chyngor cyfreithiol arbenigol gallwch drefnu eich materion ariannol i leihau eich rhwymedigaeth treth.
Pwerau Atwrnai
Ynglŷn â rhoi pŵer i unigolyn arall weithredu ar eich rhan mewn materion eiddo ac ariannol.
Ewyllys Byw/Blaengyfarwyddeb
Rhoi dewis i chi ynglŷn â’ch materion diwedd oes a chwestiynau ansawdd bywyd.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01492 640277 (Llanrwst) neu 01745 826282/825845 (Abergele)
E-bost: Defnyddiwch ein ffurflen cysylltu ar-lein os gwelwch yn dda.
I gael manylion cysylltu llawn ewch i'n tudalen cysylltu â ni.
Hawlfraint y cynnwys Cyfreithwyr Howell Jones a'i Gwmni, Llanrwst ac Abergele, Gogledd Cymru.
