Dach chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd > Symud i Gartref Nyrsio
Symud i Gartref Nyrsio
Mae llawer o bobl yn poeni am orfod symud i gartref nyrsio am sawl rheswm yn cynnwys cost gofal mewn cartref nyrsio.
Mae yno dri chategori penodol o gartrefi nyrsio, sef gofal preswyl, gofal nyrsio a gofal EMI (i'r bregus meddyliol hŷn). Mae cost y gofal yn amrywio yn ôl categori'r cartref nyrsio.
Ni ellir symud i gartref nyrsio cyn cytuno ar becyn gofal gyda chi neu eich teulu. Bydd y pecyn gofal yn cael ei baratoi ar sail eich anghenion yn unig ac ni fydd yn rhoi ystyriaeth i'ch sefyllfa ariannol. Os yw'r pecyn gofal yn cynnwys symud i gartref nyrsio yna bydd angen gwneud asesiad ariannol ar wahân. Mae'r asesiad ariannol yn ystyried cyfanswm eich incwm a sefyllfa eich cyfalaf. Os ydych yn berchen tŷ, yna bydd gwerth y tŷ yn cael ei gynnwys fel cyfalaf ar gyfer yr asesiad ariannol.
Yn amodol ar eich bod yn gymwys, bydd y Wladwriaeth yn cwrdd â chyfanswm cost eich gofal. Lle digwydd hyn cewch eich gadael â'r cyfalaf sydd gennych ac yn derbyn y lwfans arian poced.
Os yw eich cyfalaf yn fwy na'r terfyn cyfalaf cyfredol, yna bydd gofyn i chi gyfrannu tuag at gostau eich gofal ar raddfa symudol. Yn dibynnu ar lefel y gofal nyrsio sydd ei angen arnoch bydd y Wladwriaeth hefyd yn gwneud cyfraniad ar wahân tuag at gost cyffredinol eich gofal.
Mewn sefyllfa lle byddwch chi eich hun yn talu am bopeth, byddwch yn cadw eich budd-daliadau gwladol a byddwch chi neu eich teulu yn gyfrifol am dalu ffioedd y cartref gofal.
Fe all ein hymarferwyr yn Howell Jones ateb unrhyw ymholiadau neu bryderon sydd gennych ynglŷn â'r pwnc yma a sicrhau bod popeth yn ei le, pe bai'r angen yn codi, i’ch galluogi i symud yn esmwyth a didrafferth i gartref nyrsio.
Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol trwy gwblhau ffurflen ymholiadau ar-lein.
Rhestr Llawn - Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd
Gwasanaethau a Ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni
Trosolwg o wasanaethau cysylltiedig ag ewyllys ac etifeddiant a ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni.
Pwy Ddylai Wneud Ewyllys?
Gwybodaeth i'ch helpu chi i benderfynu a ddylech lunio ewyllys neu beidio.
Symud i Gartref Nyrsio
Gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â symud i gartref nyrsio.
Treth Etifeddiant
Gyda chyngor cyfreithiol arbenigol gallwch drefnu eich materion ariannol i leihau eich rhwymedigaeth treth.
Pwerau Atwrnai
Ynglŷn â rhoi pŵer i unigolyn arall weithredu ar eich rhan mewn materion eiddo ac ariannol.
Ewyllys Byw/Blaengyfarwyddeb
Rhoi dewis i chi ynglŷn â’ch materion diwedd oes a chwestiynau ansawdd bywyd.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01492 640277 (Llanrwst) neu 01745 826282/825845 (Abergele)
E-bost: Defnyddiwch ein ffurflen cysylltu ar-lein os gwelwch yn dda.
I gael manylion cysylltu llawn ewch i'n tudalen cysylltu â ni.
Hawlfraint y cynnwys Cyfreithwyr Howell Jones a'i Gwmni, Llanrwst ac Abergele, Gogledd Cymru.
