Dach chi yma: Hafan > Gwasanaethau > Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd > Treth Etifeddiant
Treth Etifeddiant
Mae cynllunio treth etifeddiant yn un o'r pethau mwyaf arwyddocaol y gallwch eu gwneud i amddiffyn incwm eich anwyliaid a sicrhau bod eich asedau yn cael eu trosglwyddo i’r bobl sy'n bwysig i chi yn hytrach na diweddu fel refeniw trethadwy.
Fe all cyngor da arbed symiau sylweddol o arian a rhoi tawelwch meddwl gwerthfawr i chi.
Mae’r cynnydd ym mhrisiau eiddo dros y 10 mlynedd diwethaf wedi golygu bod treth etifeddiant yn effeithio ar nifer cynyddol o berchnogion tai. Mae lefel presennol trothwy treth etifeddiant fel a ganlyn:-
- 2007 – 2008: £300,000
- 2008 – 2009: £312,000
- 2009 – 2010: £325,000
- 2010 – 2011: £350,000
Mae'n bosib bod Treth Etifeddiant yn daladwy ar gyfradd o 40% ar asedau mewn ystâd sydd dros y trothwy treth. Mae gan bob unigolyn lwfans Treth Etifeddiant sy'n cyfateb a gwerth y trothwy. Gyda chyngor cyfreithiol arbenigol, meddwl a chynllunio ymlaen llaw, gallwch drefnu eich materion ariannol a’ch asedau i leihau eich rhwymedigaeth treth.
Mae rheolau newydd yn gweld newid sylfaenol i sefyllfa Treth Etifeddiaeth parau priod neu aelodau o bartneriaeth sifil drwy ganiatáu i’r aelod sy’n goroesi wneud cais am unrhyw ran o lwfans treth ei diweddar gymar nas ddefnyddiwyd i’w ddefnyddio ar farwolaeth y cymar a oroesodd neu’r partner sifil. Gall hyn ddyblu'r lwfans di-dreth ar yr ail farwolaeth a gall gynrychioli arbediaeth treth sylweddol a gan ei fod wedi ei ôl-ddyddio yn ddiddiwedd fe all pob cymar sy’n goroesi ddefnyddio lwfans ei ddiweddar gymar ar ei marwolaeth ei hunain. Mae cais llwyddiannus angen prawf drwy ddogfennau a gwybodaeth benodol a ddylid eu casglu gan unrhyw un sydd wedi colli cymar yn y gorffennol.
Mae gan ein hymarferwyr arbenigedd helaeth yn y sector treth etifeddiant a gallant gynnig cyngor gwerthfawr i chi ynghylch sut i wneud y mwyaf o'ch asedau yn bersonol a phroffesiynol gan roi cyngor ar yr holl lwfansau, ymwarediadau ac eithriadau perthnasol yn cynnwys gweithredoedd amrywio ar ôl marwolaeth.
Ffoniwch ni i drefnu apwyntiad gyda rhywun fydd yn gallu eich tywys o ddryswch i dawelwch meddwl wrth i chi gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Gallwch gysylltu â ni yn uniongyrchol trwy gwblhau ffurflen ymholiadau ar-lein.
Rhestr Llawn - Ewyllysiau, Ymddiriedolaeth a Gweinyddu Ystâd
Gwasanaethau a Ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni
Trosolwg o wasanaethau cysylltiedig ag ewyllys ac etifeddiant a ddarperir gan Howell Jones a'i Gwmni.
Pwy Ddylai Wneud Ewyllys?
Gwybodaeth i'ch helpu chi i benderfynu a ddylech lunio ewyllys neu beidio.
Treth Etifeddiant
Gyda chyngor cyfreithiol arbenigol gallwch drefnu eich materion ariannol i leihau eich rhwymedigaeth treth.
Pwerau Atwrnai
Ynglŷn â rhoi pŵer i unigolyn arall weithredu ar eich rhan mewn materion eiddo ac ariannol.
Ewyllys Byw/Blaengyfarwyddeb
Rhoi dewis i chi ynglŷn â’ch materion diwedd oes a chwestiynau ansawdd bywyd.
Manylion Cyswllt
Ffôn: 01492 640277 (Llanrwst) neu 01745 826282/825845 (Abergele)
E-bost: Defnyddiwch ein ffurflen cysylltu ar-lein os gwelwch yn dda.
I gael manylion cysylltu llawn ewch i'n tudalen cysylltu â ni.
Hawlfraint y cynnwys Cyfreithwyr Howell Jones a'i Gwmni, Llanrwst ac Abergele, Gogledd Cymru.
