Ewyllysiau, Ymddiriedolaethau, Cynllunio a Gweinyddu Ystadau

Mae gan ein hadran Ewyllysiau, Profiant ac Ymddiriedolaethau ymarferwyr hynod brofiadol yn ein dwy swyddfa.

Ewyllysiau

Mae gwneud ewyllys yn beth call ac ymarferol - gan roi tawelwch meddwl llwyr i chi - ac yn gofnod o'r hyn yr ydych eisiau iddo ddigwydd pan fyddwch yn marw o ran pwy fydd yn elwa o’ch ystâd a phwy fydd yn gyfrifol am gyflawni eich dymuniadau. Mae felly’n bwysig bod ewyllys yn cael ei pharatoi’n gywir ac mewn ffordd ddilys. Mae ein hymarferwyr yn hynod brofiadol a gwybodus am baratoi ewyllys ac yn y meysydd cyfreithiol cysylltiedig, e.e. treth, ymddiriedolaethau, trawsgludo er mwyn gallu darparu gwasanaeth llawn a chynhwysfawr o'r dechrau i'r diwedd.

Profiant / Ymddiriedolaethau

Os byddwch, ar ôl i rywun farw, yn cael eich penodi fel ysgutor yn yr ewyllys ac mae angen help arnoch i weinyddu'r ystad, bydd ein hymarferwyr sensitif a gofalgar wrth law i roi cymorth i chi bob cam o'r ffordd. Ymfalchïwn mewn darparu gwasanaeth hynod effeithlon sy’n cyfathrebu'n drylwyr i roi cyngor ar bob agwedd gyfreithiol ac ymarferol ar weinyddu ystad / ymddiriedolaethau. Gallwch deimlo’n ddiogel gan wybod y byddwn yma i chi ar adeg sy’n aml yn anodd iawn.

Cyngor / Cynllunio Treth Etifeddiaeth

Gyda chynllunio gofalus, mae’n bosib lleihau maint eich ystâd drethadwy - ond gall fod yn fusnes cymhleth. Mae’n bwysig meddwl ddigon ymlaen llaw oherwydd bydd yn saith mlynedd cyn i rai agweddau ar gynllunio IHT ddod i rym yn llawn. Gall ein hymarferwyr arbenigol roi cyngor i chi ar roi trefniadau addas yn eu lle a chyngor hefyd ar y sefyllfa Treth Etifeddiaeth fel rhan o weinyddu ystad.

Top