Gwasanaethau Ymgyfreitha

Gall y rhain gynnwys sawl gwahanol faes o’r gyfraith, gan gynnwys:
Anafiadau Personol
Hawliadau am ddamweiniau sy’n cynnwys: damweiniau yn y gwaith neu mewn lle cyhoeddus, llithro, baglu a chwympo, damweiniau traffig ffyrdd a damweiniau a achosir gan gynhyrchion diffygiol.
Hawliau’r Defnyddiwr
O’r neges fwyd wythnosol i brynu eitemau drytach fel ceir neu wyliau, rydyn ni yno i bob math o ddefnyddiwr.
Ond os ydych yn anfodlon â’ch pryniant neu gyda gwasanaeth a gawsoch, bydd angen i chi dderbyn cyngor ar eich hawliau a sut y gellir unioni'r cam a gawsoch.
Anghydfod Contract ac Anghydfodau Eraill
Gallai’r rhain gynnwys:
- Anghydfod am gontract masnachol a phreifat
- Anghydfod am dir ac eiddo
- Adennill dyledion
- Hawliadau etifeddiaeth / profiant / ymddiriedolaeth
- Ansolfedd
- Esgeulustod proffesiynol
Ein ffocws yw eich cynorthwyo wrth ddelio ag unrhyw anghydfod mor gyflym ac mor gost-effeithiol â phosib. Credwn y bydd derbyn cyngor arbenigol yn gynnar yn helpu i adnabod y broblem, ystyried eich opsiynau a chytuno gyda chi ar y strategaeth orau a mwyaf cost-effeithiol i ddatrys yr anghydfod.
Er mai achos llys yw’r ateb yn y rhan fwyaf o achosion ymgyfreitha, gallwn hefyd gynnig atebion eraill i anghydfod fel cyfryngu, p’un ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, cyflafareddu a dyfarnu.
Y Ddeddf Etifeddiaeth / Hawliadau Profiant
Gallwn helpu gydag anghydfodau'n ymwneud ag ystad rhywun sydd wedi marw. Fel arfer mae achosion o’r fath yn cynnwys aelodau o’r teulu neu ffrindiau, a gallant beri gofid mawr. Ein nod ni yw sicrhau canlyniad cost effeithiol a theg, lle bo hynny'n bosib, gan osgoi’r angen am achos llys drud, sy'n cymryd llawer o amser. Pan na fydd modd osgoi achos llys, bydd ein tîm yn cynnig cynrychiolaeth o’r safon uchaf er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posib.